Welsh Christian Party

Welsh Christian Party

Flag of St. David
"Proclaiming Christ's Lordship" page location: home
Home
Welsh Christian Party
St. David's Flag
European Elections
Latest News
The State of Our Nation
Why Now?
Statement of Faith
Our Vision
Our Policies
Our People
Get Involved

Cymraeg

Party Election Broadcast

Helo

Y curiad calon yna a glywoch chi yn awr yw curiad calon y genedl, curiad calon cenedl Cymru.
Mae hefyd yn guriad calon Plaid Gristnogol Cymru. We’re very passionate about the things of Wales.
Rydym yn teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â phethau sy’n ymwneud â Chymru. Rwy’n cofio’r adeg pan sgoriodd Gareth Edwards y cais hwnnw yn erbyn y Crysau Duon ym Mharc yr Arfau, Caerdydd.
Roeddwn yn dyst i’r angerdd. Roeddwn yn rhan ohono. Rydym yn bobl angerddol ac rydw i’n teimlo’n angerddol am y tro pan gofiaf John Charles yn gwisgo crys coch Cymru ac yn sgorio. I’m passionate about Howard Winston when he won the World Boxing Championship. Rydw i’n teimlo’n angerddol am Howard Winston pan enillodd Bencampwriaeth Bocsio’r Byd. Fe wyddoch fod gan y tri dyn hyn angerdd. Eu hangerdd a’u gyrrodd ymlaen.

Ac mae gennym ni ym Mhlaid Gristnogol Cymru yr un angerdd dros ein gwlad. Rydym yn teimlo’n angerddol am ein cymdogaeth. Rydym yn teimlo’n angerddol am swyddi. Rydym yn teimlo’n angerddol am hapusrwydd y genedl. Ac rwyf am ddweud wrthych nad yw pethau yn mynd yn dda. Mae fy nghalon yn gwaedu wrth i mi yrru i fyny ac i lawr y Cymoedd a gweld yr amddifadedd. Rwy’n gweld y siopau ar gau a’r caeadau i fyny a’r caeadau i lawr ar y ffenestri. Ac rwy’n edrych i lygaid pobl Cymru ac rwy’n gweld eu bod ar goll, yn gweld unigrwydd, pobl anobeithiol. A phan ofynnaf iddynt pam eu bod yn teimlo mor ddiobaith, maent yn dweud eu bod yn teimlo fel pe baent wedi eu hanghofio. Dydyn nhw ddim yn deall a dydyn nhw ddim yn gweld fod gan Senedd yn Ewrop unrhyw beth i’w wneud â’u bywydau nhw.

Fe’m ganed i yng Nghymru. Rydw i wedi byw yma drwy fy oes. Mae gennym dreftadaeth Gristnogol rwy’n falch ohoni. Rwyf hefyd yn falch iawn o pwy ydym a phwy yr ydym wedi datblygu i fod ac mae’n fy nhristáu i weld Cymru fel cenedl wedi mynd yn genedl eilradd yn Ewrop. Pan gaeodd y pyllau glo a’r gweithfeydd dur, ddigwyddodd yna ddim yn y cyfnod rhwng hynny. Ac felly nid oes gan y bobl ifanc unrhyw ddyfodol. Dyna beth maent yn ei deimlo a dyna beth maent yn ei ddeall, oherwydd does neb arall yn dod ymlaen gyda swyddi newydd a chyfleoedd newydd.

Felly yn yr ychydig funudau hyn y cyfan rydw i am ei wneud yw dweud wrthych fod yna obaith.
Plaid Gristnogol Cymru.  Dydyn ni ddim yn wleidyddion yn yr ystyr rydych chi yn gwybod amdanyn nhw ac yn eu deall. Ond yr ydym yn bobl sy’n gweithio. Rydym yn gwybod beth yw clocio i mewn a chlocio allan o ffatri. Rydym yn gwybod sut deimlad yw byw o un pecyn cyflog i’r nesaf. Mae’r rhan fwyaf o’r gwleidyddion y byddwch yn gwrando arnynt dros yr ychydig wythnosau nesaf yn filiwnyddion lawer gwaith drosodd. Dydyn nhw erioed wedi gwybod beth yw cael eu taflu allan o dŷ oherwydd na allech dalu’r morgais, oherwydd bod eich swydd wedi diflannu o flaen eich llygaid, er eich bod wedi gweithio’n galed ac wedi gwneud eich gorau. Rydym fel pe baem yn byw mewn cymdeithas sy’n gwobrwyo pobl sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa hon fel gwlad. Mae’r  bancwyr hyn wedi cael cyflogau enfawr a phensiynau enfawr. Ac eto maen nhw wedi cyfrannu at yr hyn sy’n cael ei alw heddiw yn wasgfa credyd.

Wel, fe ddyweda’ i un peth wrthych nad yw’r biwrocratiaid, yr Ewrocratiaid a’r ‘fat cats’ yn ei ddeall ym Mrwsel. Mae gennych chi bleidlais. Mae gennych chi lais yn hyn i gyd. Ac rydw i am apelio atoch y prynhawn hwn, i ddweud wrthych fod yna obaith. Os pleidleisiwch dros Blaid Gristnogol Cymru, byddwch yn pleidleisio dros rywun sy’n gwybod ac yn deall eich trallod.

Rydym am gael y trên grefi oddi ar y cledrau. Dydyn ni ddim yn dymuno bod yn rhan ohono. Dydyn ni ddim am gael eich pleidlais o ran yr hyn y gallwn ni ei gael ohoni, ond oherwydd yr hyn y gallwn ei roi iddi. Pryd oedd y tro diwethaf i chi glywed y gair integriti a gwirionedd a gonestrwydd yn cael ei yngan gan wleidydd. Wel rydym ni yn addo os pleidleisiwch i ni y byddwn yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Bydd gan Gymru lais yn Ewrop unwaith eto. Byddwn yn siarad dros y gwirionedd a thros integriti. Byddwn yn siarad dros y dyn a’r ddynes a’r plentyn yn ôl yng nghymoedd Cymru sy’n teimlo nad oes unrhyw ddyfodol. Mae Plaid Gristnogol Cymru yn credu nad oes raid i bethau fod fel hyn.
Mae’n bryd cael newid. Digon yw digon.

Ac os ydych yn gwylio’r rhaglen hon o’r Gogledd, y Dwyrain, y De neu’r Gorllewin, rhowch eich pleidlais i ni ar Fehefin 4ydd eleni ac fe addawn y byddwn yn gwneud gwahaniaeth.
Byddwn yn codi ein llais dros Gymru.

 

Gwnewch i’ch pleidlais gyfrif ar Fehefin 4ydd eleni.

Diolch yn fawr.